Ciw bysys neithiwr - mae gobaith na fydd dim tebyg heddiw (Llun: Golwg360)
Roedd arwyddion fore dydd Mawrth fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi datrys rhai o’r prif broblemau teithio i’r Brifwyl ym Modorgan, Ynys Môn.

Doedd dim ciwiau wrth i’rmeysydd parcio ddechrau prysuro ac mae nifer o gamre wedi eu cymryd i geisio lleddfu’r trafferthion mwya’.

Erbyn heddiw, mae 20 bws yn teithio’n gyson rhwng y ddau brif faes parcio ar safle Sioe Mona a’r Stad Ddiwydiannol gerllaw a maes parcio arall nes at y Maes wedi ei neilltuo’n llwyr ar gyfer pobol anabl.

Llifo’n well

“Rydan ni’n meddwl bod pethau’n dechrau gweithio,” meddai Trefnydd yr Eisteddfod Elen Ellis. “Ydan ni hefyd wedi llwyddo i ddargyfeirio ceir ar y briffordd, yr A5.

“Ddoe, roedd yna bobol yn trio’u lwc ac yn trio dod yn nes at y Maes a hynny’n blocio’r bysys. Maen nhw’n llifo’n fwy rhydd erbyn heddiw.”

Neithiwr, roedd hi’n cymryd awr a mwy i deithio rhwng y Maes a’r meysydd parcio.

Er fod ychydig o gawodydd wedi tuag adeg gwawrio, dyw’r meysydd parcio na maes yr Eisteddfod ei hun fawr gwaeth.