Sarah-Louise Rees
Mae actores o’r Rhondda sydd hefyd yn enillydd cenedlaethol ar lefaru, yn codi ambell gwestiwn am y grefft.

Yn ôl Sarah-Louise Rees, a wnaeth ei phrif astudiaeth ar gyfer ei chwrs gradd ar yr hen grefft Gymraeg o adrodd straeon, dylai llefaru “allu sefyll ar ei ben ei hun fel adloniant clywedol yn unig”.

Am hynny, meddai, mae angen osgoi bod yn ddramatig a gwneud mosiwns neu stumiau.

Efallai bod lle i fod yn ddramatig mewn cyflwyniadau theatrig, neu mewn monologau, ond fe ddylai llefarwyr fod yn fwy “minimalistig”, meddai.

Mewn cyfres o flogiau fideo, mae’r fam 23 oed yn dweud pam ei bod hi o’r farn hon, ac yn rhoi enghreifftiau o’r gwahaniaeth rhwng cyflwyniadau theatrig a’r grefft o lefaru.

Llefaru dramatig?

Yn ôl Sarah-Louise Rees, sy’n adnabyddus am ei slot ar Prynhawn da yn trafod cyngor i famau ifanc, mae llefaru’n aml yn cael ei gysylltu ag eisteddfodau.

“I fi, dyma ble mae’r ddadl yn dechrau,” meddai gan ddweud bod llefaru “wrth gwrs yn berfformiad erbyn hyn”.

“Ni’n camu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd o flaen cynulleidfa, o flaen beirniaid ac yn eu diddanu nhw…” meddai. “Ond mae yna linell, peidiwch croesi e, da chi! Pan chi’n llefaru, chi sy’n llefaru… does dim angen i fi roi Sarah-Louise i un ochr a bod yn rhywun arall.

“Pan chi’n actio, cymeriad ydych chi, felly mae modd i chi fod yn ddramatig achos rhywun arall ydych chi gyda chefndir gwahanol a stori wahanol.”

Ac mae’r ferch sydd newydd raddio â gradd Astudiaethau Drama a Theatr o Brifysgol De Cymru yn holi, “A fyddech chi’n troi lan i gystadleuaeth canu cerdd dant a chanu’r gân ag arferion cân pop er enghraifft? Na fyddech fi’n siŵr, a dyw e ddim yn wahanol i lefaru a chyflwyniadau theatrig.”

Enghreifftiau

Yn y clipiau isod, mae’n perfformio cyflwyniad theatrig o nofel Rara Avis gan Manon Rhys, cyn mynd ymlaen i lefaru cerdd Cul Cymru.

Neu beth am y ffordd yma, heb y ddrama, dim ond llais…

‘Cadw ar wahân’

Wrth gloi mae Sarah-Louise yn mynegi ei bod hi’n bwysig “i gadw’r ddau yn bethau hollol ar wahân, achos maen nhw’n rhywbeth hollol wahanol.”

“Mae’n bwysig inni gadw llefaru mor agos a gallwn ni at yr arfer gwreiddiol, achos mae’n rhan o’n hunaniaeth ni, mae’n rhan o llais Cymru.”