Fe all Hedd Wyn fod wedi cerdded ymhlith y coed sydd wedi cael eu defnyddio i wneud Cadair Eisteddfod Genedalethol Mon eleni, meddai’r saer o Ysbyty Ifan sy’n gyfrifol am ddylunio a gwneud y dodrefnyn.
Mewn sesiwn yn trafod y dylanwadau ar ei fywyd a’i waith yn Galeri, Caernarfon, heddiw – ganrif union ers i’r bardd Hedd Wyn gael ei ladd ym mrwydr Cefn Pilkem, Belg – mae Rhodri Owen yn dweud iddo ddefnyddio pren derw ac onnen o’r Ysgwrn oherwydd cyffro’r posibilrwydd hwnnw.
“Ella mai dyna un o’r pethau mwya’ ynglyn â’r gadair,” meddai Rhodri Owen. “Gan fod yna ganrif rhwng y Gadair Ddu yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw a’r gadair yma, mae’r cynllun yn wahanol iawn, ond mae cael y cysylltiad yna efo’r Ysgwrn, yn bwysig.”
Ond “edrych ymlaen at ddyfodol heddychlon a gwell” ydi bwriad cadair Eisteddfod Genedlaethol Mon eleni, meddai Rhodri Owen wedyn. Am hynny, er bod coesau ol y gadair ar ffurf pladuriau, ac yn ein hatgoffa o’r modd y cafodd cenhedlaeth gyfan o ddynion eu torri i lawr cyn pryd yn y Rhyfel Mawr.
“Mae’r blodau gwyn yn dangos y tyfiant newydd a’r gobaith wedi i’r pladur wneud ei waith,” meddai. “Mae’n bwysig ein bod ni’n edrych am heddwch a gobaith wrth edrych ymlaen.”
A dyna pam fod yna stribedyn gobeithiol o ledr coch yn rhannu cefn y gadair, o’i dop i’w waelod. Er bod rhai wedi ei ddehongli fel symbol o waed milwyr fel Hedd Wyn, fe ddaeth ysbrydoliaeth Rhodri Owen o le gwahanol iawn…
“Pan o’n i’n dylunio’r gadair yn ystod yr haf y llynedd, roedd tim Cymru’n gwneud yn dda yn yr Ewros yn Ffrainc… ac os ydan ni am edrych am obaith a hyder, roedd ein tim pel-droed cenedlaethol yn symbol o hynny,” meddai.