Mae plant un o golofnwyr amlycaf papur newydd Y Dydd yn ardal Dolgellau, wedi bod yn rhannu eu hatgofion am eu tad gyda golwg360, yn ogystal â’u gobeithion am ddyfodol y papur.
Bu’r diweddar Owen Morgan (OM) Lloyd yn ysgrifennu colofn i’r papur rhwng am bron i chwarter canrif rhwng 1956 a 1979, ac ynddi roedd yn lleisio ei farn ar nifer o faterion – o heddychiaeth i fyd natur.
Bellach, a dyfodol Y Dydd yn y fantol – mae perchennog y papur yn sôn am ei ddiddymu- mae tylwyth un o’i brif gyfranwyr wedi rhannu hanesion am ei gyfraniad i’r papur.
Mae’r mab ieuengaf y colofnydd, Rhys Morgan Llwyd, yn hel atgofion am gludo drafftiau terfynol o’r papur i’r wasg â’i dad, ac yn medru cofio ei englynion am wiwerod. Yn ôl Rhys Morgan Llwyd, roedd ei dad yn llwyddo denu darllenwyr i’r papur â’i sylwadau “diflewyn ar dafod”.
“Byddech yn cael hanes cymdeithasau a chynhebrwng,” meddai wrth golwg360. “Ond doedd dim lot o bethau diddorol heblaw am golofn fy nhad. Oedd o’n sicr yn eithaf diflewyn ar dafod, ac yn sicr doedd pobol ddim yn hapus â’u golofn ambell i wythnos. Baswn i’n feddwl oedd o’n taranu yn erbyn Llafur a’r Torïaid yn sicr.”
Mae Rhys Llwyd yn pryderu gan fod Y Dydd yn ddibynnol ar waith gwirfoddol ond mae’n ffyddiog yng ngallu “pobol weithgar Dolgellau,” a bod dyfodol i’r papur ar ffurf wahanol.
“Mae’n hen bapur, a baswn i’n falch iawn os tasa nhw’n medru cario mlaen,” meddai. “Baswn i’n meddwl bydd dyfodol y papur ar ffurf fisol, yn debyg i bapur bro.”
“Sgwennu’n gryf, sgwennu’n glir”
Mae’r mab hynaf, Gwyn Lloyd, yn tynnu sylw at allu ysgrifennu ei dad ac yn sôn am y modd yr oedd yn cymryd ei gyfrifoldeb “o ddifri ” tra’n golofnydd.
“Mi oedd o’n sgwennu’n dda iawn – sgwennu yn gryf iawn , yn glir iawn,” meddai. “Oedd yn cymryd y mater [o ysgrifennu i’r papur] o ddifri. Oedd o’n gweld bod ganddo fo rôl bwysig o ran mynegi barn.
“Dw i’n siŵr oedd o’n gallu gwneud ei hun yn amhoblogaidd weithiau yn lleol trwy feirniadu’r Cyngor dref a Chyngor sir ac yn y blaen. Roedd ei agwedd yn genedlaetholgar iawn dros y Gymraeg. Os oedd o’n gweld pobol yn ei siomi o’r cyfeiriad yna mi roedd yn mynegi hynna yn glir iawn.”
O ran ddyfodol y papur mae Gwyn Lloyd yn nodi: “Mae’n drist pan mae papur fel hynna yn dod i ben … Gobeithio bydd na modd o’i gynnal o.”
“Dyletswydd i leisio barn”
Bellach mae gan ferch O M Lloyd, Nest Owen, ei cholofn ei hun – Colofn Llandegfan – ym misolyn Papur Menai yn Sir Fôn.
Roedd ei thad, meddai, yn “teimlo dyletswydd i leisio barn” ac o ganlyniad i hyn, yn aml yn “tynnu pobol yn ei ben”.
“Dw i’n meddwl oedd o’n teimlo dyletswydd i leisio barn,” meddai Nest Owen wrth golwg360. “A bod o’n fraint ei fod yn cael colofn i leisio ei farn.
“Oedd o’n medru tynnu pobol yn ei ben,” meddai wedyn. “Doedd pawb ddim yn cytuno efo beth oedd o’n ddweud weithiau. Oedd o’n boliticaidd weithiau. Er enghraifft, oeddwn i’n Ysgol Doctor Williams yn Nolgellau – sef yr unig ysgol ferched oedd yn Seisnigaidd iawn – ac mi fydda fo’n dweud pethau am yr ysgol.”
Mae Nest Owen yn cyfeirio at y posibiliad o droi Y Dydd yn bapur bro ac yn dweud ei bod yn hapus gyda hynny.
“Dw i’n meddwl basa hynny yn ardderchog… mae papurau bro yn bwysig, dydyn?”