Mae atebion i holiadur gan gwmni mordeithiau yn datgelu bod cymaint ag un o bob pump o bobol gwledydd Prydain yn dweud celwydd neu’n gorliwio eu profiadau er mwyn ymddangos yn fwy diwylliedig.
MSC Cruises oedd yn gyfrifol am holi 2,000 o Brydeinwyr ynglyn â’r llefydd maen nhw wedi bod; pa lyfrau maen nhw wedi’u darllen; pa fwydydd maen nhw’n eu hoffi; pa ddramâu neu sioeau theatr maen nhw wedi’u gweld; a pha ffilmiau maen nhw wedi’u gwylio.
Roedd yr holiadur hefyd yn gofyn iddyn nhw nodi ateb yr oedden nhw wedi dweud celwydd yn ei gylch – ac fe ddywedodd pedwar o bob deg eu bod nhw wedi honni iddyn nhw wylio ffilm nad ydyn nhw wedi’i gwylio mewn gwirionedd.
Mae 19% o’r rheiny oedd wedi ymateb i’r holiadur hefyd yn dweud eu bod nhw wedi gorliwio’u diddordeb mewn gwleidyddiaeth er mwyn ymddangos yn glyfar.
Mae 21% wedi dweud celwydd am y llefydd maen nhw wedi bod iddyn nhw, ac 17% wedi dweud celwydd am eu chwaeth gerddorol a’r llyfrau maen nhw wedi’u darllen.
Roedd 29% wedi cyfaddef iddyn nhw ddweud celwydd am y math o fwydydd maen nhw’n eu hoffi – gyda sushi, wystrys a quinoa yn atebion cyffredin.
Ymhlith y pynciau eraill lle mae gorliwio neu gelwyddau’n digwydd mae dramâu, operâu a gweithiau celf.
Y celwyddau mwyaf cyffredin
– Mae pobol yn cymryd arnyn fod wedi bod i Seland Newydd, Efrog Newydd, Awstralia, Rhufain, Paris, Gwlad yr Iâ, Ciwba, Brasil, Fenis a Jamaica;
– O ran eu hoff fwydydd neu ddiodydd honedig, y mae sushi, siocled tywyll, stecen waedlyd, quinoa, wystrys, cwrw lleol, caws drewllyd, tsili poeth, afocado a granola;
– Ymysg y ffilmiau maen nhw am gael eu gweld yn eu mwynhau, y mae Pulp Fiction, The Godfather, Fight Club, To Kill a Mockingbird, It’s a Wonderful Life, The Graduate, One Flew Over the Cuckoo’s Nest, Donnie Darko, Citizen Kane a Taxi Driver.
– Ac ym myd llên, dyma’r llyfrau y maen nhw wedi’u darllen: War and Peace, Pride and Prejudice, Harry Potter and the Philosopher’s Stone, To Kill a Mockingbird, Life of Pi, Lord of the Flies, Animal Farm, The Fellowship of the Ring, The Catcher in the Rye ac Ulysses.