Golygyddion Y STAMP
Bydd cylchgrawn llenyddol newydd sbon yn cael ei lansio ddiwedd y mis gan bedwar llenor ifanc sy’n “gweld yr angen am lwyfan newydd i annog eraill i gyhoeddi eu gwaith”.
Mae rhai o erthyglau cylchgrawn Y STAMP eisoes wedi cael eu cyhoeddi ar-lein ond mae’r golygyddion wedi penderfynu mynd ati i sefydlu cylchgrawn papur, gyda’r bwriad o lansio pob rhifyn mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru.
Elan Grug Muse o Brifysgol Abertawe, Llŷr Titus o Brifysgol Bangor a Miriam Elin Jones ac Iestyn Tyne o Brifysgol Aberystwyth sy’n cyhoeddi’r cylchgrawn.
“Ysgogi amrywiaeth llenyddol”
“Rhan o genhadaeth y cylchgrawn yw cynnig llwyfan llenyddol newydd ac ysgogi amrywiaeth llenyddol drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai criw Y STAMP.
“Gobeithir annog ‘sgrifennwyr ac arlunwyr i fwrw ati o’r newydd, ynghyd â chynnig platfform cyhoeddi i awduron sydd eisoes yn adnabyddus.”
Bydd lansiad y rhifyn cyntaf yn Aberystwyth, lle fydd darlleniadau gan gyfranwyr y rhifyn a’r ‘bardd gwadd’, Eurig Salisbury. Mae disgwyl hefyd i’r gantores, Bethany Celyn, berfformio.
Rhai o gyfranwyr y rhifyn cyntaf bydd Menna Elfyn, Morgan Owen, Gareth Evans Jones, Caryl Bryn, Rhys Trimble, Siân Miriam, Gwen Saunders Jones, Caryl Angharad Roberts.
Bydd nifer cyfyngedig ar werth am £3 y copi a modd hefyd ddarllen y deunydd o’u gwefan.
Bydd lansiad rhifyn cyntaf Y STAMP ar 23 Mawrth yn Nhafarn y Cŵps, Aberystwyth am 7:30 yr hwyr.