Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi mai Natalie Williams sydd wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr newydd.

Ganwyd a magwyd Natalie yng Nghaerdydd, a dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi ym maes Cyfraith academaidd yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen, cyn symud at Nelson Thornes, lle bu’n Uwch Gyhoeddwr yn gyfrifol am y portffolio Mathemateg uwchradd a strategaeth gyhoeddi’r Deyrnas Unedig.

Ers tair blynedd, mae Natalie Williams wedi bod yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun, gan weithio i gyhoeddwyr gan gynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Hodder Education, Pearson Education a HarperCollins.

“Rwy’n eithriadol falch i fod yn ymuno â Gwasg Prifysgol Cymru fel Cyfarwyddwr, ac yn falch iawn i gael y cyfle i arwain sefydliad sydd â threftadaeth a hanes Cymru’n graidd iddo,” meddai.

“Mae hwn yn gyfnod o newid o fewn prifysgolion a chyhoeddi, sy’n gosod heriau ond sydd hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i’r Wasg. Gan weithio gyda thîm angerddol ac ymroddgar, rwyf yn edrych ymlaen at barhau a thyfu rhagoriaeth addysgol y Wasg gartref a thramor.”