Fe fydd cerdd Gymraeg gan Fardd Cenedlaethol Cymru yn cael ei thaflunio ar dŵr Big Ben yn Llundain ar Sul y Cofio eleni.
Geiriau’r gerdd ‘Terasau’ gan Ifor ap Glyn fydd i’w gweld ar Dŵr Elizabeth, sy’n cynnwys y cloc a chloch enwog Big Ben, ger Palas San Steffan, ar Dachwedd 13. Ac fe fydd penillion ‘Rhyfel’ Hedd Wyn hefyd i’w gweld ar lan afon Tafwys, fel rhan o gynlluniau Senedd Prydain i gofio Rhyfel y Somme 1916.
“Fe gafodd y gerdd ‘Terasau’ ei hysbrydoli gan ymweliad â mynwentydd milwyr a gan raddfa’r golled a’r amhosiblrwydd o nabod y dynion sy’n gorwedd yno,” meddai Ifor ap Glyn, a gafodd ei eni a’i fagu’n un o Gymry Llundain.
Brwydr waedlyd
Cafodd Brwydr y Somme ei ymladd gan ymerodraethau Prydain a Ffrainc yn erbyn Ymerodraeth yr Almaen rhwng Mehefin 1 a Thachwedd 18, 1916.
Roedd Brwydr y Somme ymhlith y brwydrau mwyaf gwaedlyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf pan gollwyd cenhedlaeth o fechgyn ifanc o Gymru eu bywydau. Roedd Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George a’r Parchedig John Williams wedi annog bechgyn o Gymru i ‘ymladdd dros eu gwlad’.
Ymhlith y milwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Ellis Humprhey Evans (neu Hedd Wyn) a enillodd y Gadair Ddu yn Eisteddfod Lerpwl 1917.
Fe fydd cerddi gan Carol Ann Duffy a Jackie Kay yn cael eu taflunio ar Big Ben hefyd.