Mae perchennog papurau newydd Y Cyfnod a’r Corwen Times yn chwilio am olygydd ac is-olygydd ar y teitlau, er bod y cwmni’n dal ar werth.

Mae hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg ac ar wefan gymdeithasol Facebook yn chwilio am bobol i ysgrifennu storïau ar gyfer prif dudalennau newyddion y ddau bapur yn ardal Penllyn ac Edeyrnion, wedi i’r perchennog, Mari Jones-Williams, roi’r gorau iddo a symud i olygu cylchgronau mudiad yr Urdd.

Mae’r cwmni ar werth ers canol Hydref, ac yn cael ei hyrwyddo fel “cyfle i wneud cyfraniad” i’r ardal trwy redeg busnes lleol a phapurau poblogaidd sy’n cael eu darllen yn eang.

Yn 2014, fe brynodd Mari Jones-Williams, sy’n wreiddiol o Lanycil ger Y Bala, y cwmni, gan atgyfodi’r papur wythnosol yn y dre’, gyda’r bwriad o ddatblygu’r papur at yr unfed ganrif ar hugain.

Er bod y papurau ar werth, meddai’r cwmni wedi pwysleisio y bydd angen i berchennog nesa’r Cyfnod & CorwenTimes fod yn ymwybodol o ba mor “werthfawr” ydi’r papurau i’r gymuned, ac “addo eu gwarchod”.