Ddydd Gwener diwetha’, fe roddwyd Gwydion Thomas i orffwys yn yr ardal yn Llŷn y bu mor amddiffynnol ohoni ar hyd ei oes.
Bu farw unig fab y bardd R S Thomas a’r artist Elsie Eldridge y mis diwetha’ yn 71 oed, ac fe’i claddwydd yn naear Eglwys Llanfaelrhys ar Hydref 21.
Roedd wedi gwneud ei gartre’ ers blynyddoedd mewn tŷ hir o’r enw Sarn-y-Plas ar dir stad Plas yn Rhiw yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhentre’ Rhiw.
Roedd yn ymgyrchydd natur ac yn weithredol iawn wrth wrthwynebu datblygiadau ffyrdd o gwmpas ei gartre’ a choetir Plas yn Rhiw a oedd mor agos at ei galon. Roedd hynny am i’w deulu ar ochr ei dad fod ynghlwm ag adfer y stad.
Roedd Gwydion Thomas yn arbenigwr ar farddoniaeth ei dad ac ar gelfyddyd ei fam, ac mae un o gerddi mwya’ adnabyddus R S Thomas, ‘Song for Gwydion’ wedi’i chyfansoddi iddo.