Clawr y llyfr ‘Gwenallt – Cofiant D Gwenallt Jones 1899 – 1968’, gan Alan Llwyd (Llun: Y Lolfa)
Mae cofiant newydd am Gwenallt yn taflu goleuni newydd ar yrfa, bywyd a gwaith y bardd, ysgolhaig a chenedlaetholwr.
Mae Gwenallt – Cofiant D Gwenallt Jones 1899 – 1968 gan Alan Llwyd yn cynnwys tua thrigain o gerddi o waith Gwenallt na welsant olau dydd erioed o’r blaen.
“Mae’r cerddi hyn yn allweddol o safbwynt deall twf a datblygiad Gwenallt,” meddai’r awdur, Alan Llwyd.
“Y rhain yw’r cerddi coll yng ngwaith Gwenallt, y cerddi sy’n pontio’r ffin rhwng yr awdlau rhamantaidd cynnar, ‘Ynys Enlli’, ‘Cyfnos a Gwawr’, ‘Y Mynach’, a cherddi aeddfed diweddarach Ysgubau’r Awen.”
Carchar
Cafodd Alan Llwyd hefyd afael ar ddogfen yn dwyn y teitl ‘Wanderings’, sef atgofion Albert Davies, cyfaill i Gwenallt, am anturiaethau’r ddau, gan gynnwys eu cyfnod yn y carchar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae awdur y cofiant hwn hefyd yn cynnig – am y tro cyntaf erioed – dystiolaeth bendant ynghylch union amgylchiadau carcharu Gwenallt adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan olrhain ei gamau yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw yn ei hanes.
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac achosodd storm gyda’i awdl ‘Y Sant’ yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci ym 1928 a gwrthododd y beirniaid ei choroni.
“Er mai byr oedd Gwenallt o ran corffolaeth, yr oedd iddo bersonoliaeth ffrwydrol, ymfflamychol a natur wrthryfelgar a phrotestgar,” ychwanegodd Alan Llwyd. “Fel grenâd mewn gwniadur”.
Pedwarawd o gofiannau i ‘gewri llên’
Dyma’r pedwerydd cofiant i Alan Llwyd ei ‘sgwennu mewn chwe blynedd. Ymddangosodd ei gofiant dadleuol i Kate Roberts yn 2011, ei gofiant i R Williams Parry yn 2013, a’i gofiant i Waldo Williams yn 2014.
Meddai Alan Llwyd: “Tua chwe blynedd yn ôl, fe benderfynais y byddwn yn gosod nod arbennig ar fy nghyfer i fy hun, sef llunio pedwarawd o gofiannau i bedwar o gewri llên yr ugeinfed ganrif. Bellach, gyda chyhoeddi’r cofiant hwn, y mae’r dasg ar ben.”
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio am 6.30 o’r gloch ar nos Wener, Hydref 14, yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe.