Ag yntau’n ffermwr mynydd o Lanfairfechan yng Nghonwy, ‘Mab y Mynydd’ oedd dewis cyntaf Gareth Wyn Jones.

Esboniodd ei fod yn medru uniaethu â cherdd Eifion Wyn sy’n sôn am olyniaeth y tir a’r teulu sy’n bugeilio’r mynydd.

“Dw i’n teimlo bod ‘Mab y Mynydd’ yn debyg i be’ dw i’n neud fel amaethwr ar y mynyddoedd,” meddai cyn mynd ati i ddyfynnu’r pennill cyntaf…