A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, aeth golwg360 ati i holi rhai o enwogion Cymru i rannu eu hoff gerddi.

Y cyntaf i ymateb oedd cyflwynwraig Y Lle ar S4C a’r gantores sy’n canu gyda’i chwiorydd yn y band Sorela.

Esboniodd Lisa Angharad, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, mai ei hoff gerdd hi yw ‘Englynion Coffa Hedd Wyn’ gan R. Williams Parry.

Dewisodd yr englynion am eu bod “mor angerddol a theimladwy, ac wrth ddarllen nhw ti’n torri dy galon”.

“O’n i’n meddwl pa mor horrible bydde’ fe i farw ddim yng Nghymru. Bydde’ fe’n afiach o beth,” meddai.