Gareth F Williams (Llun: Llenyddiaeth Cymru)
Bu farw’r awdur toreithiog, Gareth F Williams. Roedd yn 61 mlwydd oed, ac wedi bod bod yn brwydro canser yn ddewr.
Drannoeth ei ymddangosiad yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen ar brynhawn Mawrth, Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn Y Fenni ddechrau Awst eleni, fe gafodd wybod nad oedd gwella, a bu’n derbyn gofal lliniarol ers hynny.
Un o fechgyn Porthmadog oedd Gareth Finlay Williams, ac fe drysorodd y ddwy flynedd y treuliodd yn gweithio yn siop gerddoriaeth eiconig y dref, Recordiau’r Cob, ganol y 1970au.
Fe fu’n stiwdant ym Mhrifysgol Bangor, cyn mynd yn ei flaen i gymhwyso fel athro yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam, gan weithio wedyn fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon rhwng 1979 ac 1985. Treuliodd gyfnod yn byw yn Beddau ger Pontypridd, cyn ymgartrefu yn Silstwn, Bro Morgannwg yn ystod y blynyddoedd diwetha’.
Ond fel awdur a enillai ei fara menyn o ysgrifennu, y daeth Gareth F yn enw adnabyddus, a thros y chwarter canrif diwetha’, fe fu’n gyfrifol am ysgrifennu dros 20 o gyfrolau gwahanol ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion.
Fe fu hefyd yn ysgrifennu dramâu cerdd ar gyfer y llwyfan, yn gweithio i HTV, ac roedd yn aelod o’r tîmau o sgriptwyr a grëodd y cyfresi teledu poblogaidd, Pengelli a Rownd a Rownd yn y 1990au. Enillodd wobr BAFTA am ei sgript ffilm, Siôn a Siân, ynghyd â gwobr yn yr Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd am ei gyfres deledu, Pen Tennyn.
Llwyddodd i ennill Gwobr Tir Na N’og am ei lyfrau i blant ar chwech achlysur, gan gynnwys 2015, pan lwyddodd i wneud y dwbwl trwy gipio gwobr Llyfr y Flwyddyn hefyd am ei nofel Awst yn Anogia, sydd wedi’i seilio ar fywyd yn Ynys Creta yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae rhai o’i nofelau mwyaf poblogaidd eraill yn cynnwys Jara, Tacsi i’r Tywyllwch, Y Tŷ Ger y Traeth, a dwy gyfrol wedi’u seilio ar orsaf drenau a theithwyr Dyfi Jyncshyn ger Machynlleth.
Eto i’w chyhoeddi ganddo y mae Plant y Pasg, nofel i bobol ifanc wedi’i seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, 1916. Mae disgwyl i honno weld golau dydd o Wasg Carreg Gwalch ym mis Chwefror y flwyddyn nesa’.
Mewn cyfweliad tua diwedd 2014, dywedodd Gareth F Williams mai ei hoff awdur oedd P G Wodehouse, a’i fod yn edmygydd mawr o’r awdur a’r bardd Cymraeg, T Rowland Hughes, “am fedru creu nofelau mor wych ag yntau’n ddyn sâl”.