Gwobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn 2015 wedi greu gan Ffion Roberts-Drakley
Un o raddedigion Celf a Dylunio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ffion Roberts-Drakley, sydd wedi creu tlws Gwobr Barn y Bobl ar gyfer seremoni Llyfr y Flwyddyn eleni.
Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i awdur y llyfr sydd wedi’i ddewis gan ddarllenwyr Golwg360 yn dilyn pleidlais gyhoeddus ar y wefan, a hynny heno yn seremoni Llyfr y Flwyddyn yng Nghaernarfon.
Ffion Roberts-Drakley ydy’r artist ifanc diweddaraf o adran gelf y Brifysgol i gael cyfle i greu’r wobr gan barhau a’r berthynas rhwng Golwg360 a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r wobr yn adlewyrchu’r thema ganolog yng ngwaith Ffion sef Y Seld neu’r Ddresel Gymreig.
Meithrin talent
“Rydan ni’n falch iawn i gydweithio unwaith eto gydag Adran Gelf Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i roi cyfle i fyfyriwr addawol greu gwobr Barn y Bobl eleni,” meddai Prif Weithredwr Golwg360, Owain Schiavone.
“Rydan ni wedi bod yn cynnal pleidlais Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn ar Golwg360 ers 2010, ac rydan ni’n falch iawn i gydweithio â Llenyddiaeth Cymru i wneud hynny.”
“Ffion ydy’r pumed myfyriwr o’r adran yng Nghaerfyrddin i greu’r wobr, ac rydan ni’n ddiolchgar eto i’r Brifysgol am feithrin talent mor arbennig – mae’r wobr yn werth ei gweld unwaith eto eleni, a dwi’n siŵr bydd yr enillydd yn ei drysori.”
Unwaith eto eleni pleidleisiodd cannoedd o bobol dros wobr Barn y Bobl ar Golwg360 ac fe fydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu yn y seremoni yn y Galeri heno.