Gillian Clarke
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn perfformio yng ngŵyl Lleisiau’r Byd (PEN) yn Efrog Newydd yr wythnos hon.

Clarke yw’r awdur cyntaf o Gymru i’w gwahodd i annerch yn y digwyddiad hwn, sy’n para dros wythnos, ac yn cael ei ystyried yn un o’r gwyliau llenyddol mwyaf nodedig yn y byd

PEN yw’r sefydliad rhyngwladol ar gyfer awduron, ac mae’n gweithio tuag at amddiffyn rhyddid mynegiant, cefnogi awduron sy’n cael eu herlid, a hybu diwylliant llenyddol byd-eang. Salman Rushdie yw’r llywydd.

Dywedodd Gillian Clarke: “Mae’n fraint i mi gynrychioli Cymru mewn fforwm mor bwysig â hwn.

“Mae Cymru’n wlad fach, ond cofnodwyd y farddoniaeth gynharaf ym Mhrydain yn y Gymraeg, sef iaith fyw hynaf Ewrop.

“ Rhaid i ieithoedd lleiafrifol ffynnu mewn byd sy’n gynyddol homogenaidd i feithrin amrywiaeth a thrafod diwylliannol, gwleidyddol ac ethnig. Mae Cymru’n esiampl penigamp o wlad sy’n wirioneddol siarad mewn dwy iaith. Mae gennym gymaint i’w rannu.”

Cynhelir Gŵyl Lleisiau’r Byd PEN mewn lleoliadau amrywiol ar draws Efrog Newydd o 29 Ebrill tan 5 Mai.