Mae cyflwynydd y One Show wedi ei derbyn yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth wrth iddi ddychwelyd i’r lle gafodd hi ei graddio gyda BA mewn Drama yn 1998.
Fel rhan o’i hymweliad â’r Brifysgol, fe wnaeth Alex Jones gyfarfod myfyrwyr, staff ac aelodau o’r gymuned leol yn ystod ffug gyfweliad y One Show a sesiwn holi ac ateb.
Ar ôl graddio, bu’n gweithio fel cyflwynydd teledu ar S4C cyn iddi gael ei phenod i yn gyflwynydd y One Show yn 2010.
“Mae Aberystwyth yn lle arbennig iawn ac mae gen i atgofion gwych o fy amser yma fel myfyriwr,” meddai Alex.
“Roedd yn bleser gwirioneddol i ymweld â’r Brifysgol ac yn anrhydedd arbennig i dderbyn y Gymrodoriaeth,” ychwanega.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Teitl Cymrawd yw’r anrhydedd uchaf posibl a ddyfernir gan y Brifysgol sy’n cydnabod unigolion nodedig sydd â chysylltiad agos ag Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.
“Roeddwn yn arbennig o falch o groesawu Alex yn ôl i Aberystwyth ac i’r Brifysgol ac i gydnabod ei llwyddiant fel unigolyn ac fel cyn-fyfyrwraig o’r Brifysgol.”