Y tri chystadleuydd - Larkin Cen ar y chwith, Dale Williams ar y dde
Colli a wnaeth y ddau ymgeisydd o Gymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth goginio deledu, Masterchef.

Fe gafodd y cyfreithiwr Larkin Cen a’r dyn busnes Dale Williams eu curo gan DJ rhan amser o Hackney, Natalie Coleman.

Fe gafodd hi ganmoliaeth uchel iawn ar ôl creu pryd tri chwrs o gimwch, porc a panna cotta.

Yn ôl y beirniaid, roedd ganddi’r potensial i fod yn un o sêr y diwydiant.

Ond roedd y ddau o Gymru hefyd wedi curo cannoedd o gystadleuwyr o bob rhan o wledydd Prydain.

Mae Dale Williams yn bennaeth ar gwmni recriwtio a Larkin Cen yn gyfreithiwr gyda Morgan Cole yng Nghaerdydd.