Un o brif gyfrifoldebau swyddog newydd y Performing Rights Society –  y PRS – yng Nghymru yw i helpu atal “gweithredwyr gwleidyddol”.

Mae Golwg360 wedi cael gafael ar gopi o’r disgrifiad swydd y tu cefn i hysbyseb am Uwch Reolwr Datblygu Aelodau – Cymru, swydd newydd sydd wedi cael ei chreu ar ôl helyntion y corff hawliau cerddorol  yng Nghymru.

Mae’n dod ychydig fisoedd ar ôl i gannoedd o gerddorion Cymreig ymuno gyda chorff newydd, Eos, oherwydd anniddigrwydd gyda’r PRS.

Datganiad PRS

Mewn datganiad mae’r PRS wedi dweud eu bod nhw wedi “ymrwymo” i’w haelodau yng Nghymru.

Yn ôl y corff mae ailstrwythuro diweddar wedi caniatáu sefydlu’r rôl newydd yma yn seiliedig ar leoliad gan adlewyrchu’r drefn sydd eisioes mewn lle yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ond wrth sôn am y disgrifad swydd, aeth y datganiad ymlaen i ddweud: “Mae’r hinsawdd bresennol o fewn y diwydiant yn golygu bod y rôl hon yn arbenigol ac mae onglau materion cyhoeddus, polisi, cysylltu a datblygu iddo.

“Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddeall ac ymgysylltu ar faterion hawliau, bod yn wybodus o’r ddadl hanesyddol a chyfredol o gwmpas gwerth cerddoriaeth Gymraeg ac yn y pen draw cefnogi ein holl aelodau ac aelodau’r dyfodol.

“Mae ein haelodaeth o gyfansoddwyr wedi parhau i dyfu yng Nghymru dros y 5 mlynedd diwethaf a bydd cael cynrychiolydd penodedig yn gweithio yn y wlad yn sicrhau y gall yr aelodau newydd yn gwneud y gorau o’u haelodaeth PRS.”

Y disgrifiad swydd

Mae’r swydd, sy’n talu cyflog o tua £40,000 y flwyddyn, yn golygu y byddai gan y PRS swyddog yng Nghymru am y tro cynta’.

Mae’r hysbyseb yn sôn am gryfhau’r cysylltiadau gydag aelodau, dylanwadu ar bobol sy’n gwneud penderfyniadau a chodi proffil y PRS, gan ffafrio person sy’n siarad Cymraeg.

Ond mae’r pwynt cynta’ yn y disgrifiad swydd  sydd wedi dod i law Golwg360 yn sôn am roi cyngor i’r corff ar strategaeth i wrthweithio “activists” gwleidyddol ymhlith yr aelodaeth yng Nghymru.

Y cefndir

Cafodd y corff hawliau darlledu Cymreig, Eos, ei sefydlu yn dilyn newid polisi gan y PRS yn 2007 a 2008 oedd yn golygu gostyngiad mawr mewn incwm i gerddorion – yn enwedig i gerddorion Cymraeg.

Fe gafodd copïau o’r hysbyseb ac o’r disgrifiad swydd eu hanfon at nifer o gerddorion yng Nghymru.

Fe fu Golwg 360 yn ceisio cael gafael ar lefarydd y PRS ddoe i holi am statws y disgrifiad swydd ac am eu diffiniad o “weithredwyr gwleidyddol”. Er gadael mwy nag un neges, ddaeth dim ateb hyd yn hyn.

‘Ofer codi pais’


Mae Dafydd Roberts o Eos yn credu bod creu’r swydd newydd wedi dod yn rhy hwyr.

“Dwi wedi gweld y swydd ar eu gwefan nhw a’r unig beth sydd gen i i’w ddweud ydi ofer codi pais,” meddai Dafydd Roberts.

“Lle maen nhw wedi bod tan rwan efo swydd yn gyfrifol am eu haelodau yng Nghymru? Os fysan nhw wedi gwneud hyn 5-6 mlynedd yn ôl, fyddai dim angen hyn rŵan.”

Wrth siarad am y swydd ddisgrifiad dywedodd Dafydd Roberts: “Mae’n nharo fi yn gymhwyster od iawn i rhywun sydd i fod i edrych ar ôl eu aelodau.”

“Ond be fyswn i wedi ei obeithio ydi y bysan nhw wedi derbyn ein cynnig ni i rannu swyddfa gydag Eos.”

“Mi fydden nhw’n elwa lot fawr gan y bydden nhw’n cael mwy o wybodaeth am beth sy’n digwydd ar lawr gwlad a chael cyfle i rannu gwybodaeth – felly fyddai dim angen neb efo’r cymwysterau y maen nhw’n eu disgrifio.”

Stori: Ciron Gruffydd