Stuart Hall yn derbyn ei OBE (PA)
Mae Swyddfa Gabinet Llywodraeth Prydain wedi dweud wrth Golwg360 ei bod hi’n bosib y gallai Stuart Hall golli ei anrhydedd OBE.

Os bydd y darlledwr yn cael carchar am gyfnod o fwy nag ychydig fisoedd, mae’n debygol y bydd pwyllgor arbennig yn ystyried ei achos.

Fe ddaeth i’r amlwg y bore yma fod y darlledwr wedi pledio’n euog fis diwethaf yn Llys y Goron Preston i ymosod yn anweddus ar 13 o ferched rhwng 1967 a 1986 ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Fehefin 17.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet mai penderfyniad y Pwyllgor Fforffedu yw tynnu anrhydeddau’n ôl.

Yn ôl y llefarydd, mae cyfnod o garchar sy’n fwy na thri mis fel arfer yn gyfiawnhad dros dynnu anrhydedd oddi ar rywun.