Cor Caerwedros yn ennill y brif gystadleuaeth ganu
Clwb Llanwenog  a enillodd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion gan guro Troedyraur a ddaethyn ail a  Caerwedros yn drydydd.

Y canlyniad unigol ola’ oedd cystadleuaeth y corau, gyda Chaerwedros yn curo Penparc a Llanwenog i’r ail a’r trydydd lle.

Fe orffennodd yr Eisteddfod yn draddodiadol gyda’r holl gorau’n ymuno i ganu ‘Anfonaf Angel’ – cyfanswm o fwy na 280 aelod o saith o gorau.

Ac fe gyhoeddodd Caerwedros y byddai aelodau eraill yn cael gwahoddiad i ymuno gyda nhw i greu cor unedig i’r sir gyfan yn Eisteddfod Cymru.

Y Gadair i Elin

Mae Elin Dafydd, enillydd Cadair Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn llenor dawnus iawn, meddai’r beirniad Emyr Llywelyn.

Fe enillodd yr athrawes o Glwb Troedyraur am stori fer yn sôn am helyntion ffermio yng Ngheredigion y dyddiau hyn.

“Dyma stori sy’n dal sylw o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Emyr Llew. “Mae’n creu cymeriadau byw mewn iaith raenus, syml.”

Mae Elin Dafydd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol y Strade, Llanelli.

Yr ail oedd Megan Lewis, Trisant, a Siwan Davies, Llanwenog, y drydydd – y ddwy am straeon.

Llanwenog yn llamu ymlaen

Roedd yna res o lwyddiannau i Glwb Llanwenog yn ystod hanner cynta’ dydd Sadwrn.

Yn ystod y deg cystadleuaeth gyntaf, fe gawson nhw bum cynta’, dau ail a thrydydd yn y cystadlaethau llwyfan.

Bro’r Dderi oedd y clwb arall i wneud marc cynnar gyda dau gyntaf ac un ail.

Ganol y prynhawn fe ddaeth dwy wobr gynta’n olynol i Landdewi Brefi.

Oriel o luniau dydd Sadwrn – o dan y canlyniadau

Canlyniadau dydd Sadwrn

Y Gadair a Stori

  1. Elin Dafydd, Troedyraur
  2. Megan Lewis, Trisant
  3. Siwan Davies, Llanwenog

Cerdd

  1. Gwenan Davies, Mydroilyn
  2. Lowri Davies, Troedyraur
  3. Gwennan Davies, Llanwenog

Cyfansoddi Geiriau Cân

  1. Meleri Morgan, Llangeitho
  2. Siwan Jones, Troedyraur
  3. Einir Ryder, Pontsian

Poster i Hysbysebu Digwyddiad CFfI (16 oed neu iau)

  1. Steffan Jones, Pontsian
  2. Meinir Davies, Llanwenog
  3. Sioned Fflur Davies, Llanwenog, a Beca Thomas, Pontsian (cydradd)

Brawddeg “Preseli”

  1. Ifan James, Troedyraur
  2. Enfys Hatcher, Llanwenog
  3. Meleri Morgan, Llangeitho

Llyfr Cofnodion

  1. Llanwenog
  2. Troedyraur
  3. Pontsian, Felinfach a Llangwyryfon  (cydradd)

Celf

  1. Gwennan Thomas, Pontsian
  2. Gwenan Davies, Troedyraur
  3. Miriam Briddon, Caerwedros, a Carwyn Davies, Llanwenog – cydradd

Limrig

  1. Gwennan Davies, Llanwenog
  2. Ffion Lewis, Llanddeiniol
  3. Siôn Jones, Felinfach

Rhaglen Clwb

  1. Felinfach
  2. Troedyraur
  3. Mydroilyn

Cyfansoddi Sgets

  1. Meleri Morgan, Llangeitho
  2. Cennydd Jones, Pontsian
  3. Aron Dafydd, Bro’r Dderi

Blog Materion Gwledig

  1. Luned Mair, Llanwenog
  2. Ifan James, Troedyraur
  3. Dwynwen Lewis, Mydroilyn

Llyfr Lloffion

  1. Llanwenog
  2. Pontsian
  3. Mydroilyn

Llyfr Trysorydd

  1. Llanwenog
  2. Pontsian
  3. Llangwyryfon

Cywaith Clwb

  1. Pontsian
  2. Caerwedros
  3. Llanwenog

Unawd 13 neu iau

  1. Elin Davies, Llanwenog.
  2. Heledd Evans, Caerwedros
  3. Emily Jones, Llangeitho

Llefaru 13 neu iau

  1. Nest Jenkins, Lledrod
  2. Alaw Mair Jones, Felinfach
  3. Ffion Jones, Llangwyryfon, ac Alwen Morris, Llangwyryfon (cydradd)

Unawd 21 neu iau

  1. Gwawr Hatcher, Llanwenog
  2. Osian Rees,  Penparc
  3. Elen Thomas, Talybont, a Rhys Lloyd Jones, Llanddewi Brefi

Llefaru 16 neu iau

  1. Aron Dafydd, Bro’r Dderi
  2. Gethin Morgan, Bro’r Dderi
  3. Gwenyth Richards,Pontsian

Llefaru 21 neu iau

  1. Luned Mair, Llanwenog
  2. Ceris James, Bryngwyn
  3. Sioned Davies, Llanwenog

Unawd Alaw Werin

  1. Ceris Jones, Bryngwyn
  2. Caryl Haf, Llanddewi Brefi
  3. Catrin Reynolds, Troedyraur, a Lowri Davies, Troedyraur (cydradd)

Llefaru 26 neu iau

  1. Elin Haf Jones, Llanwenog
  2. Enfys Hatcher, Llanwenog
  3. Einir Ryder, Pontsian

Canu Emyn

  1. Carwyn Hawkins, Felinfach
  2. Elen Thomas, Talybont
  3. Ceris James, Bryngwyn

Parti Llefaru

  1. Bro’r Dderi
  2. Llanwenog
  3. Felinfach

Deuawd, Triawd, Pedwarawd Cerdd Dant

  1. Llanwenog
  2. Caerwedros
  3. Troedyrau

Deuawd

  1. Emyr ac Iwan, Llanddewi Brefi
  2. Ceris a Dafydd, Bryngwyn
  3. Hedydd ac Elliw, Bro’r Dderi

Monolog

  1. Catrin Medi Pugh, Llanddewi Bref

Unawd Sioe Gerdd

  1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
  2. Elen Thomas, Talybont
  3. Iwan Davies, Llanddewi Brefi

Adrodd Digri

  1. Cennydd Jones, Pontsian
  2. Dyfan Jones, Lledrod
  3. Twm Ebbsworth, Llanwenog a Gethin Hatcher, Llanwenog (cydradd

Sgets

  1. Mydroilyn
  2. Caerwedros
  3. Penparc a Troedyraur (cydradd)

Parti Deulais

  1. Troedyraur
  2. Caerwedros
  3. Llanddewi Brefi

Deuawd Doniol

  1. Morys a Trystan, Caerwedros
  2. Arwel a Heilin, Llanwenog
  3. Aled ac Emyr, Felinfach

Holl aelodau'r corau - 280 ohonyn nhw - yn uno ar y diwedd

Cor buddugol Caerwedros

Sgets buddugol Mydroilyn - 'athrylith' meddai'r beirniad

Morys a Trystan, Caerwedros, yn ennill ar y Ddeuawd Ddoniol

Luned Mair, Llanwenog, enillydd y Llefaru dan 21

Ceris James, Bryngwyn, enillydd yr Alaw Werin

Lowri Elen Jones, Bro'r Dderi, enillydd yr Unawd Sioe Gerdd

Cennydd Jones, Pontsian, enillydd yr adrodd digri

Elin Dafydd yn cael ei chadeirio