Cadair Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Gareth ‘Neigwl’ Williams o Ben Llŷn oedd yn ail am y Gadair ym Mro Morgannwg ddoe.

Dan y ffugenw, ‘Rhwng y ddwyborth’, roedd wedi ysgrifennu dilyniant o ddeg o gerddi yn cyfleu pa mor fregus ydi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn Llŷn.

Mae Gareth Neigwl newydd gyhoeddi ei gyfrol gynta’ o gerddi, Ar y Tir Mawr, ac roedd yn cystadlu yn ffeinal Y Talwrn gyda thîm Y Tir Mawr ar faes Llandw ddydd Sadwrn diwetha’.