Ar ddiwrnod olaf Prifwyl Bro Morgannwg, dydi carafanwyr na threfnwyr na stiwardiaid ddim callach ynglyn â phwy – neu be’ – sy’n gyfrifol am y garafan sydd wedi’i lapio mewn seloffên.

Ers dechrau’r wythnos, fe fu’r garafan yn safle cynta’r maes, nepell o’r ganolfan groeso, heb nag arwydd na dim i sôn am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yno.

Ond yr artist, Roger Lougher, sydd biau’r garafan, ac mae wedi bod yn gwahodd artistiaid eraill a llenorion yno i greu trwy’r wythnos.