Dylan Iorwerth
Roedd Dylan Iorwerth yn ail am y Gadair i’w nai yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.
Ei ffugenw y llynedd oedd ‘Col’, a dyna’r unig dro arall iddo gystadlu am y Gadair cyn eleni.
“Yn ôl y beirniaid beth bynnag, ro’n i’n ail, yr unig broblem oedd mai fy nai fy hun, Rhys, oedd wedi ennill,” meddai Dylan Iorwerth.
“Ond ro’n i’n falch iawn o hynny, ac roeddwn i’n falchach ar y pryd na taswn i wedi ennill fy hun.”