Geraint Lloyd Owen
Mae’r ffaith fod neb yn cystadlu am brif wobr llefaru’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn profi mai llefaru ydi “Sinderela y brifwyl”, yn ôl Prifardd.
“Petasai yna rywun yn cystadlu, mi fasa’r gystadleuaeth ar y llwyfan am hanner dydd heddiw… ond mae’r Rhuban Glas ar y llwyfan am chwech o’r gloch heno,” meddai Geraint Lloyd Owen.
Roedd chwech enw wedi dod i law ar gyfer y Wobr eleni, ond dim ond un ymgeisydd ddaeth i’r rhagbrawf. Ar ôl mynd i’r wal yn y rhagbrawf, fe benderfynodd honno beidio mynd ar y llwyfan.