Mae Eisteddfod Bro Morgannwg wedi taro dau o’i phrif amcanion, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
“Mae pobol yr Eisteddfod wedi dod i adnabod yr ardal ac mae pobol yr ardal wedi dod i adnabod Cymru a’r Eisteddfod,” meddai Dylan Jones. “Mae llawer o bobol ddi-Gymraeg wedi rhyfeddu at yr Eisteddfod.”
Roedd llawer o bobol wedi dweud y bydden nhw’n dod yn ôl ac roedd gobaith hefyd am waddod parhaol i’r Brifwyl, trwy ganolfan Gymraeg yn yr ardal a chofeb barhaol i ‘dad yr Orsedd’, Iolo Morganwg.