Mae lladron wedi torri i mewn i nifer o stondinau ar Faes yr Eisteddfod, gan ddefnyddio llafn minion i dorri trwy’r cynfas.

‘‘Mae’n amlwg mai rhywun a chyllell ddaeth i fewn yma trwy dorri i fewn.  Yr oedd clustlusau a gemwaith ar lawr ym mhob man,’’ meddai Margaret Thomas, Arianne Jewellery.

‘‘Yr unig beth yr’yn ni wedi ei golli yw iPad, ond d’yn ni ddim wedi edrych yn fanwl eto,’’ meddai Shirley Thomas, Millie’s Market.

Mae Golwg360 yn deall bod stondin Plaid Cymru hefyd wedi colli arian.