Carys Edwards
Mae angen torri rhegfeydd a geiriau anweddus o sgriptiau rhai perfformwyr – ond nid ar noson y perfformiad, yn ôl Cadeirydd Panel Canolog.   

Roedd Carys Edwards yn ymateb i’r ffaith fod sgriptiau cystadleuaeth y ddeialog ddydd Mawrth wedi eu “sensro” gan gynhyrchydd teledu ychydig funudau cyn i’r cystadleuwyr fynd ar y llwyfan.

“Wrth gwrs bod eisie bod yn ofalus efo ambell i reg neu air anweddus, ond dydi o ddim yn deg ei wneud o cyn i bobol ifanc fynd ar y llwyfan,” meddai.