Tim prifysgol Aberystwyth oedd yn fuddugol mewn talwrn yn erbyn Bangor ar Faes y brifwyl heddiw.

Yn cynrychioli Aberystwyth roedd Huw Meirion Edwards, Hywel Griffiths, Iwan Rhys a Gruffydd Antur – dau ddarlithydd, un cyn-fyfyriwr ac un myfyriwr Ffiseg.

Tîm Bangor oedd yr Athro Peredur Lynch, Llio Gwynfor, Llion Jones a Menna Baines.

A’r sgôr terfynol?  Aberystwyth 90 ½ – Bangor 90..