Peter Spriggs a het L.I.D.
Mae’r artist, Peter Spriggs, wedi gwisgo het arbennig ar gyfer dod i’r Maes ym Mro Morgannwg.

Y tu mewn i’r het uchel ddu, mae’r llythrennau L.I.D., sef llythrennau cynta’r Parchedig Lewis Idris Davies, ei dad-cu.

“Roedd e’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn Seilo, Pentre yn y Rhondda Fawr, ac fe fuodd e farw yn 1958,” meddai Peter Spriggs.

“Roedd e’n gwisgo’r het hon mewn angladde.”