Peter Hughes Griffiths
Roedd cyffiniau Maes yr Eisteddfod yn allweddol ym mywyd un o wleidyddion ac ymgyrchwyr mwya’ Cymru, meddai darlithydd yn y Brifwyl.

Erthygl yn gwrthwynebu sefydlu maes awyr milwrol yn Sain Tathan oedd y tro cynta’ i gyn-Lywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, wneud marc gwleidyddol.

Ac, yn ôl Peter Hughes Griffiths, roedd wedi ymgyrchu’n gynnar iawn am bethau sydd bellach yn amlwg ar y Maes – o Radio Cymru ac S4C i Goleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Roedd ei gyfraniad yn anhygoel,” meddai.