Mae’n bosib na fyddai gan brif bensaer yr Eisteddfod waith o gwbl pe bai’n dibynnu ar gomisiynau o Gymru.
Fe ddywedodd Jamie Yeoman, pensaer yr Ysgol a enillodd y FedalAur am Bensaernïaeth, bod toriadau gwario cyhoeddus yn bygwth dyfodol y maes.
“Oni bai fod gan ein cwmni swyddfeydd ar draws gwledydd Prydain, sa’ i’n siŵr a fydden i mewn swydd ar hyn o bryd,” meddai.
Roedd y cynllun buddugol wedi cynnwys cael barn y plant, meddai.