Y darn coll gan Daniel Clark
Mae darn celf gwerth £1,000 wedi diflannu o Le Celf yr Eisteddfod – a hynny adeg yr agoriad swyddogol.
Dyw’r heddlu ddim wedi cael gwybod eto, wrth i’r Eisteddfod geisio deall beth sydd wedi digwydd iddo.
Roedd y darn – pren mesur ar blinth – gan yr artist Daniel Clark yn ei le ar ddechrau’r arddangosfa ac, yn ôl Swyddog Celf yr Eisteddfod, Robyn Tomos, mae’n ddirgelwch llwyr beth sydd wedi digwydd iddo.
Enw’r darn, yn eironig, ydi ‘Testament i sefyll yn llonydd’.
Apêl am wybodaeth
Yn ôl Robyn Tomos, does dim sicrwydd mai lladrad yw’r digwyddiad – fe allai fod yn dric gan rywun neu fe allai plentyn fod wedi ei gymryd yn ddiniwed.
Mae Daniel Clark bellach wedi cael clywed am y golled. Yn ôl Robyn Tomos, roedd wedi derbyn bod “pethau fel hyn yn digwydd”.
“Beth bynnag sydd wedi digwydd, mae hyn yn gadael blas cas yn y geg,” meddai. “Dyma’r tro cyntaf i beth o’r fath ddigwydd.”
Fe apeliodd am wybodaeth gan unrhywun sy’n gwybod am beth ddigwyddodd i’r darn.