Y Gêmau Olympaidd sydd ar fai am ddiffyg signal i ffônau symudol ar Faes yr Eisteddfod.

Mae yna gwyno wedi bod gan ddefnyddwyr Vodafone oherwydd fod y signal mor wan.

Yn ôl datganiad a gyhoeddwyd ar y Maes, roedd yr Eisteddfod wedi gofyn i’r cwmni sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer yr ŵyl – ond, oherwydd, eu hymrwymiad i’r gêmau yn Llundain, doedd ganddyn nhw ddim digon o adnoddau i wneud hynny.

Mae cwmni Orange wedi darparu mast arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.