Y ddau'n astudio cynllun y 'stondin'
Fe fydd seremonïau’r Orsedd yn wahanol o fory ymlaen wrth i’r Archdderwydd ddefnyddio stondin bren fechan i hwyluso’i waith.

Mae’r greadigaeth dderw hardd, sy’n ffitio i ochr cadair yr Archdderwydd ar y llwyfan wedi ei rhoi gan yr economegydd trafnidiaeth Stuart Cole.

Fe fydd yn rhoi lle i’r Archdderwydd orffwys y deyrnwialen a’i lyfr nodiadau … “Dw i’n falch iawn fod Bwrdd yr Orsedd wedi derbyn y syniad,” meddai Stuart Cole.

Fe fydd y stondin – sydd heb gael enw swyddogol eto – yn cael ei defnyddio gynta’ fory.