Iolo Morganwg y tu allan i uned y cyngor
Mae ymgyrch wedi dechrau i gael cofeb deilwng i Iolo Morganwg ym Mro Morgannwg.
Mae criw o bobol leol eisoes wedi dechrau codi arian, wrth i fwy a mwy o sylw gael ei roi i’r athrylith hynod o ardal y Bontfaen.
“Mae’r Eisteddfod wedi helpu pobol y Fro i ailddarganfod Iolo,” meddai Llywydd yr Eisteddfod Euryn Ogwen Williams.
A Iolo sy’n denu pobol i uned Cyngor Bro Morgannwg ar y Maes.