“Beth bynnag alli di ei wneud – bron” … oedd neges Paul Hughes, un o chwythwyr cyrn gwlad yr Eisteddfod.

Ar ôl i’w gyd-chwythwr, Dewi ‘Corn’ Griffiths, arwain Band Dinas Caerdydd i fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Bandiau Dosbarth 3, fe ddaeth Paul ‘Corn’ Cynan yn agos at wneud yr un peth gyda Band Llanrug yn ail gyda’r Bandiau Dosbarth 2 ddoe.

Fe fydd y ddau’n chwythu eu cyrn gyda’i gilydd yn Seremoni’r Corni yfory – nhw ydy’r ffanferwyr ers deng mlynedd.