Aled Sion - eisteddfod dda yn Eryri
Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn rhagweld y bydd “tua 95,000” wedi ymweld â phrifwyl Eryri 2012, ond mae’n gwrthod gwneud sylw ar yr effaith y mae dathliadau’r Jiwbilî wedi ei gael ar y trefniadau.
Wrth siarad â golwg360 ar brynhawn ola’ Eisteddfod yr Urdd Eryri, mae Aled Sion yn dweud i drefn y llwyfan a rhagbrofion fynd “yn dda”, er gwaetha’r trafferthion traffig ddechrau’r wythnos, a’r tywydd difrifol ers dydd Iau ymlaen.
“Mae’n amhosib rhagweld y tywydd, ond does yna ddim pwrpas dechrau mynd i drafodaeth ynglyn ag effaith y Jiwbili,” meddai. “Os yw gwyliau’r ysgolion yn symud, mae’n rhaid i ninnau symud hefyd, felly mae’n ddadl gwbwl hurt.
“Os na fydden ni’n symud i gyd-fynd â gwyliau ysgolion, fydde yna neb yma’n cystadlu. Ond wy’n credu fod y stondinwyr yn eitha’ hapus, er bod rhai wedi gorfod cau’n gynnar. Wedi dweud hynny, ro’n i’n siarad â rhai masnachwyr oedd yn dweud eu bod nhw wedi gwneud digon o arian erbyn amser cinio dydd Mawrth i dalu’r coste.”
Roedd y trefnwyr wedi gosod targed o 100,000 ar gyfer nifer yr ymwelwyr â safle Glynllifon eleni. Fyddan nhw ddim yn cyrraedd y targed hwnnw.
“Roedden ni’n awyddus i weld 100,000 yn dod i mewn trwy’r gatie,” meddai Aled Sion, “ond mae’n debyg mai rhywle o gwmpas 95,000 fydd wedi bod yma.