Rhai o fathemategwyr buddugol 2012 yn derbyn eu tystysgrifau gan Malcolm Allen
Mae dwsin o bobol ifanc wedi cael eu gwobrwyo am wneud syms ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri. Dyma’r gystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei chynnal gan y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol mewn cydweithrediad â’r Urdd.
Fe fu dros 600 o blant, o 19 o ysgolion uwchradd ledled Cymru, yn cystadlu eleni. Fe dderbynion nhw eu gwobrau gan Malcolm Allen, Llywydd y Dydd, dydd Iau. Wrth eu gwobrwyo, dywedodd y cyn-beldroediwr:
“Rhaid i blant ddatblygu meddwl ystwyth yn ogystal â chorff ystwyth! Llongyfarchiadau i’r Urdd am gefnogi’r gystadleuaeth ddifyr hon, ac am roi lle teilwng iddi yng ngweithgareddau’r Eisteddfod.”
Y buddugwyr
Ben Jones a

Ben Jones a Rhiannon Llwyd, Ysgol Dyffryn Ogwen
Russell Winfield, Ysgol Dyffryn Conwy
Brendan Scott, Aled George a Rhodri Davies, Ysgol Bro Morgannwg
Pandora Lapington, Ysgol Botwnnog
Christopher Daniel, Ysgol Bryn Tawe
Idris Messemah, Ysgol y Creuddyn
Thomas Bowen, Ysgol Plasmawr
Osian Edwards, Ysgol Brynrefail
Megan Roberts, Ysgol Maes Garmon