Sian a Guto - dau ar daith i Batagonia eleni
Mae Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru wedi cyhoeddi enwau’r 21 person ifanc sydd wedi eu dewis i fynd ar daith i Batagonia rhwng Hydref 24 a Tachwedd 6 eleni.
Dyma nhw:
- Catrin Williams, Catrin Cox, Luned Phillips a Anna o Ysgol Plasmawr, Caerdydd
- Ioan Williams, Rhun Dafydd, Bethany Hawkins a Harri ForestDavies o Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri
- Cerys Harries, Guto Rhys Harries a Hanna Thomas o Ysgol Y Preseli, Crymych
- Freyer Howells a Sian Roberts o Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Powys
- Martha Rhys a Efa Dafydd o Ysgol Maes Yr Yrfa, Cefneithin
- Eira Evans a Meleri Morgan o Ysgol Tregaron, Ceredigion
- Catrin Raymond o Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun, Sir Benfro
- Sioned Evans o Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin
- Sian Williams o Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan
- Sophie Ann Nicholls o Ysgol Gyfun Llanhari, Rhondda Cynon Taf
Dyma’r pumed tro i’r Urdd a Mentrau Iaith Cymru gydweithio wrth drefnu’r daith i Batagonia, gyda chymorth swyddogion y Fenter Iaith ym Mhatagonia.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r bobl ifanc wedi gwneud llawer i helpu’r gwledydd y maen nhw wedi ymweld â nhw, trwy ail-baentio ysgolion, helpu mewn ysgolion meithrin, a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa.
Codi arian
Mae’n rhaid i bawb sy’n mynd ar y daith godi £2,000 tuag at y costau o hedfan i Dde America. Ond mae’r profiad yn werth hynny, meddai tri o’r bobol ifanc dan sylw:
‘‘Bydd gweld mwy o bobol yn siarad yr iaith yn rhoi gobaith i mi, ac yn rhoi’r gallu i mi ddangos i bobol eraill ar ôl dod adref bod pwrpwas i’r iaith,’’ meddai Efa Dafydd o Ysgol Maes Yr Yrfa.
‘‘Rwy’ i wedi bod yn cynnal llawer o foreuon coffi a golchi llawer o geir ar gyfer codi arian,’’ meddai Sian Williams o Ysgol Llanbedr Pont Steffan wedyn.
‘‘Un o’r pethau pwysica’ r’yn ni am wneud draw yno, yw i hybu’r iaith Gymraeg i’r genhedlaeth ifanc,’’ meddai Guto Rhys Harris o Ysgol y Preseli, Crymych.