Mae Ysgoloriaeth newydd wedi ei sefydlu er cof am amgylcheddwr a darlithydd.
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, mae Morgan Parry o Gyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cyhoeddi Ysgoloriaeth Geraint George Urdd Gobaith Cymru.
Pwrpas yr ysgoloriaeth, sy’n agored i unigolion rhwng 18 a 25 oed, ydi meithrin pobol ifanc a all helpu pobol eraill yng Nghymru a thu hwnt i werthfawrogi’r byd naturiol o’u cwmpas.
Bu Geraint George farw yn ddisymwth yn 2009, tra’r oedd yn Gyfarwyddwr Rheolaeth Cefn Gwlad Prifysgol Bangor. Roedd o’n aelod o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac yn Is-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“Roedd Geraint wrth ei fodd yn gweithio gyda phobol ifanc,” meddai Morgan Parry, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru. “Roedd yn eu hannog nhw i holi a ffurfio barn am yr amgylchedd o’u cwmpas.
“Roedd o’n awyddus iawn i weld pobol yn trafod pynciau amgylcheddol ac yn ystyried Cymru a’i threftadaeth mewn cyd-destun rhyngwladol.”
Pwy sy’n gymwys?
I ymgeisio, mae angen anfon “gwaith cyfathrebu” mewn unrhyw gyfrwng, ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru, at yr Urdd.
Bydd yr enillydd yn cael dewis un o ddwy wobr – y cynta’, mynd ar ymweliad â Pharc Cenedlaethol Trigav yn Slofenia, lle bydd yn cael dysgu am waith y Parc a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Neu, yr ail ddewis, mynychu cynhadledd Ewroparc, sy’n cael ei chynnal mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn.