Dafydd Iwan yn mochel rhag y glaw ar faes Glynllifon
Mewn ambiwlans y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cychwyn eu Taith Tynged yr Iaith o faes Eisteddfod yr Urdd.

Dafydd Iwan oedd yn lansio, am 2 o’r gloch heddiw, y daith sydd wedi’i henwi ar ôl darlith radio Saunders Lewis a ddarlledwyd yn 1962 ac sy’n tynnu sylw at wendid cymunedau Cymraeg.

“Wy wedi cael ambell ffrae gydag aelodau Cymdeithas yr Iaith dros y blynydde, ond y prif ddadl ydi achub yr iaith,” meddai Dafydd Iwan, gan dynnu coes y trefnwyr ynglyn â lliwiau coch, gwyn a glas y cerbyd argyfwng, a hithau’n ddiwedd wythnos o ddathliadau Jiwbili.

Fe fydd yr ambiwlans yn ymweld â maes Sioe Ogwen ym Methesda dros y Sul, cyn parhau i lefydd ar draws y gogledd cyn troi am Bowys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.

“R’yn ni i gyd yn gwybod fod y Gymraeg yn dirywio fel iaith gymunedol am nifer o resymau,” meddai Hywel Griffiths, llefarydd y Gymdeithas ar gymunedau cynaliadwy.

“Er bod yr hanner can mlynedd diwethaf o ymgyrchu wedi golygu fod rhyw fath o ddyfodol i’r Gymraeg, mae her yn ein wynebu nawr i sicrhau mai dyfodol fel cyfrwng naturiol ar lawr gwlad yw hi.

“Mae gan bob cymuned yng Nghymru botensial o fod yn gymuned Gymraeg,” meddai wedyn, “ond dim ond drwy uno gyda’n gilydd fel cymunedau y gallwn ni siarad ag un llais yn erbyn y bygythiadau yma i’n cymunedau a thros weledigaeth amgen.”