Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth dydd Sadwrn, Hydref 2ail yn Neuadd y Pentref. Roedd y neuadd yn orlawn ar gyfer yr adran leol, ond siomedig iawn oedd nifer y gynulleidfa yn yr hwyr, er i safon y cystadlu fod yn arbennig o uchel.
Llywydd yr Eisteddfod eleni oedd Mrs Isabel Jones o Lanarth. Un o Lanarth yw Isabel ac wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i bopeth lleol. Cafwyd ganddi araith ddiddorol dros ben a diolchwn yn fawr iddi am y rhodd haelionus iawn i’r Eisteddfod. Braf oedd cael ei phresenoldeb yn yr Eisteddfod am ran helaeth o’r diwrnod, ynghyd a’i merch a’i hwyres.
Beirniaid yr Eisteddfod am eleni oedd: Llên a Llefaru – Mrs Ann Fychan o Abercegir a chloriannwyd adran y gerddoriaeth gan Mrs Rhiannon Lewis o Genarth. Dyfarnwyd y gwaith celf gan Mrs Nest Thomas o Lanarth a chyfeiliwyd gan Mrs Lynne James o Gastell Newydd Emlyn. Rhannwyd y gwaith o arwain yr Eisteddfod gan y canlynol – Angharad John, (Prifathrawes), Catrin Bellamy Jones, Alun Williams ac Alan Thomas.
Enillwyd cadair yr Eisteddfod, a wnaed gan Aled Dafis, Caerwedros gan Anys Wood o Ysgol Bro Tawe, Abertawe. Yr oedd seremoni’r Cadeirio yng ngofal Ann Fychan. Cyrchwyd yr enillydd i’r llwyfan gan Angharad Evans a Rhys Jones a hwy hefyd wnaeth gyfarch y bardd ifanc. Braf iawn yw gweld ieuenctid yr ardal yn cymryd at y rhannau arweiniol yn y seremoni yma.
Hoffai’r Pwyllgor gydnabod cymorth y gwragedd a fu’n glanhau a pharatoi’r Neuadd a gofalu am y lluniaeth gydol y dydd a’r stiwardiaid fu ar y drws. Diolch i’r canlynol am noddi’r Eisteddfod eleni – Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Pantyfedwen. Mae ein diolch yn fawr hefyd i Brifathrawes a Staff ysgol Llanarth am eu gwaith caled yn paratoi’r holl blant ar gyfer yr Adran Leol. Llawer o ddiolch i’r rhai a fu’n helpu i gynnal yr Eisteddfod, ac os hoffech wirfoddoli i helpu yn Eisteddfod blwyddyn nesaf, boed yn y drws, neu yn helpu yn y gegin, croeso i chi roi eich enwau i Nerys ar 01545 580117. Byddem fel pwyllgor yn falch iawn o dderbyn bob help er mwyn ysgafnhau’r baich ar y gwirfoddolwyr presennol. Dyma’r canlyniadau:-
Lleol: Canu
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
– Dosbarth Derbyn | Cordelia | Lowri | Ellamay |
Blwyddyn 1 | Lucy | Katie | Heini |
Blwyddyn 2 | Esme | Daniel | Rebecca |
Blwyddyn 3 | Isabel | Fflur | Joshua |
Blwyddyn 4 | Ela | Hefin | Georgia |
Blwyddyn 5 | Cameron | Maisie | Molly |
Blwyddyn 6 | Ela | Rachel | Jax |
Parti Canu | Fronwen | Tegfan | Gwynfryn |
Tarian Jayne Evans | Dewi | Ella |
Llefaru
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
– Dosbarth Derbyn | Cordelia | Lowri | Ellamay |
Blwyddyn 1 | Katie | Sara | Cai |
Blwyddyn 2 | Esme | Bethan | Rebecca a Katie |
Blwyddyn 3 | Isabel | Bruce | Moli |
Blwyddyn 4 | Hefin | Ela | Seren a Celin |
Blwyddyn 5 | Molly | Deian | Stephanie |
Blwyddyn 6 | Ffion | Naim | Dewi |
Arlunio
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
– Dosbarth Derbyn | Ellamay | Erin a Nia | Olivia |
Blwyddyn 1 | Cai | Tamzin | Heini |
Blwyddyn 2 | Sarah | Katie | Bethan |
Blwyddyn 3 | Lili | Rivka | Chloe |
Blwyddyn 4 | Jamie Lee | Seren | Ettienne |
Blwyddyn 5 | Molly | Maisie | Dafydd |
Blwyddyn 6 | Dewi | Ela | Jax |
Enillwyd cwpan Siân a Nia Henson am y cystadleuwyr gyda’r nifer fwyaf o bwyntiau yn yr Adran Leol gan Molly Grainger a Dewi Morris.
ADRAN AGORED – CANU
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
dan 6 oed | Sara Evans,Tregaron | Glesni Haf, Llanddeiniol | Mari Olwen, Felinfach |
6 – 8 oed | Siwan George, Lledrod | Pheobe Salmon, Dinas | |
8 – 10 oed | Sara Louise Davies, Synod | Ella Evans, Felinfach | Enfys Morris, Llanddeiniol |
10 – 12 oed | Elen Lois, Llwyncelyn | Nia Lloyd, Maenclochog | Tomos Salmon, Dinas |
Piano dan 12 | Nest Jenkins, Lledrod | Megan Teleri Davies, Llanarth | Elin Davies, Cwmsychpant |
Canu Emyn dan 12 | Elen Lois | Nest Jenkins | Tomos Salmon |
Cerdd Dant dan 12 | Megan Teleri Davies | Hannah Davies, Pencader | Tomos Salmon |
Alaw werin dan 12 | Elen Lois | Tomos Salmon a Nest Jenkins | Ella Evans |
Unawd dan 16 | Blythe Ann, Maenclochog | Lowri Elen Jones, Llambed | |
Cerdd Dant dan 16 | Lowri Elen Jones | ||
Canu emyn 12 – 16 | Blythe Ann | Lowri Elen Jones | |
Alaw werin 12 – 16 | Lowri Elen Jones | Blythe Ann | |
Unrhyw offeryn cerdd dan 18 | Nest Jenkins | Daniel Aldritt, Llanrhystud | Blythe Ann |
Unawd dan 21 | Blythe Ann | ||
Her Unawd dan 30 | Blythe Ann |
Yr ymgeisydd mwyaf addawol dan 12 oed yn yr Adran Gerddoriaeth – Nest Jenkins, Lledrod
LLEFARU
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
dan 6 oed | Aled Lloyd | Glesni Haf | Sara Evans |
6 – 8 oed | Pheobe Salmon | Siwan George | |
8 – 10 oed | Hannah Davies | Megan Teleri Davies | Sara Louise |
10 – 12 oed | Nest Jenkins | Tomos Salmon | Elen Lois a Nia Lloyd |
Dan 16 | Lowri Elen | Blythe Ann | |
Llefaru dan 21 | Blythe Ann |
Yr ymgeisydd mwyaf addawol dan 12 oed yn yr Adran Lefaru – Nest Jenkins, Lledrod.
LLENYDDIAETH
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Cadair – Gwobr Llenyddiaeth yr Ifanc | Anys Wood, Ysgol Bro Tawe, Abertawe | ||
Stori Cynradd | Megan Teleri Davies, Llanarth | Dewi Morris, ysgol Llanarth | Ffion Church, ysgol Llanarth |
Poster dan 16 | Elisa Evans,Dyffryn Teifi | Beth Davies, Dyffryn Teifi | Megan Teleri Davies |
Llawysgrifen dan 12 | Megan Teleri Davies | Ela Bryan,ysgol Llanarth | Stephanie Spatz, ysgol Llanarth |
Llawysgrifen dan 16 | Summer Mayes, Dyffryn Teifi | Nia Currado,Dyffryn Teifi a
Guto Harvard, Penweddig |
Megan Wyn Evans, Dyffryn Teifi a Megan Jones, Dyffryn Teifi |