Bydd seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn cael ei chynnal yn Aberteifi heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 29).
Bydd y brifwyl yn dod i Dregaron ym mis Awst y flwyddyn nesaf, ond bydd Myrddin ap Dafydd yn cychwyn ar ei dymor yn Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.
Mae disgwyl cannoedd yn y seremoni yn Aberteifi, lle bydd y Archdderwydd newydd hefyd yn cymryd yr awenau’n swyddogol.
Bydd Eisteddfod 2020 yn cael ei chynnal ar gyrion y dref ar Awst 1-8.
Yn ôl y traddodiad rhaid cynnal y seremoni o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn dechrau’r Eisteddfod.
Yn y seremoni fe fydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau.
Bydd y gweithgareddau’n dechrau ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Aberteifi am 11yb, a hynny’n dilyn gorymdaith sy’n cychwyn o’r caeau am 10.15yb.