Mae Sylvia Marangoni yn dod o Fenis yn yr Eidal, ac wedi treulio rhai dyddiau yn ymweld â’r brifddinas gyda’i phlant.
Doedd hi erioed wedi clywed am yr iaith Gymraeg o’r blaen, ond cafodd eu sbarduno i ymweld â’r Eisteddfod ar ôl gweld pwt ar y teledu.
“Roeddwn wedi bwriadu dod i Gaerdydd er mwyn gweld y castell, a ddoe mi welais rywbeth ar y teledu bod ‘na rhywbeth ymlaen yma,” meddai wrth golwg360. “Felly dyma fi.”
Mae’n jocian ei bod ar goll rhywfaint oherwydd bod “popeth yn Gymraeg”, ac mae’n dweud ei fod yn drueni nad yw’n heulog.
Ond, mae’n mwynhau’r cyfle i brofi diwylliant Cymraeg, meddai.
Angori
Mae Ram Rodriguez yn dod o’r Pilipinas ac wedi penderfynu treulio rhai oriau yn y bae, gan fod y llong mae’n gweithio arni wedi angori.
“Dw i jest eisiau edrych o gwmpas y lle,” meddai wrth golwg360. “Mae’n neis medru cael hoe fach, ac mae’r llong dim ond rhyw bymtheg munud i ffwrdd.”
“Doeddwn ni ddim yn gwybod am [yr Eisteddfod], ond rydym ni wedi synnu gweld rhywbeth fel hyn yma heddiw. Mae’n neis iawn.”
Mae’r gŵr wedi ymweld â Chaerdydd sawl gwaith o’r blaen trwy ei waith, ac felly’n gyfarwydd â’r Gymraeg. Ac mae e’n edrych ymlaen at gael blas o’r brifwyl.
I’r Bae
Mae Nicky Singh, wedi teithio i Gaerdydd o Ganolbarth Lloegr gyda’i gariad.
Mae eu ‘penwythnos hir’ o wyliau yn dirwyn i ben, ac felly mae’r cwpwl am dreulio peth amser ym mae Caerdydd cyn gadael.
“Daethon ni yma i weld Caerdydd ac yna mi welsom hysbyseb am yr Eisteddfod,” meddai wrth golwg360. “Felly meddyliom ni – ‘waeth i ni fynd i’w weld.’
“Dyma’r tro cyntaf i mi glywed amdano, felly mae hyn yn brofiad newydd i ni. Dydw i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl chwaith.”