Mae’r Urdd yn gobeithio cael clywed cyn diwedd Medi a fydd Llywodraeth Cymru’n rhoi £2.75m at wella’r gwersylloedd, yn enwedig Llangrannog a Glan-llyn.
Mae’r mudiad ei hun wedi addo buddsoddi swm o’r un faint at y gwaith – rhan o weledigaeth Prif Weithredwr newydd y mudiad, Sian Lewis.
“Mae’r trafodaethau gyda’r Llywodraeth wedi bod yn adeiladol iawn,” meddai, mewn cynhadledd i’r wasg yn yr Eisteddfod.
Cyfraniadau cynta’ i gronfa
Heddiw, fe gyhoeddodd hi hefyd fod y cyfraniadau cynta’ wedi eu gwneud at gronfa newydd i helpu plant o gefndiroedd di-fraint i fynd ar gyrsiau yn y ddau wersyll a’r ganolfan yng Nghaerdydd.
Y nod yw cael 100 o noddwyr i gyfrannu cyfanswm o £16,000 i dalu am 100 o lefydd y flwyddyn nesa’, gan godi i 500 erbyn i’r mudiad ddathlu ei ben-blwydd yn 100 yn 2022.
Fe ddywedodd Sian Lewis ei bod yn credu “y dylai pob plentyn gael cyfle i fynychu’r gwersylloedd” ac na ddylai sefyllfa ariannol teuluoedd olygu bod plant “yn colli mas”.
Gwneud cais
Fe fydd rhieni ac athrawon yn gallu gwneud cais am gymorth ariannol i anfon plant ar gyrsiau pum niwrnod ac mae’r mudiad yn llunio meini prawf i benderfynu pa rai fydd yn cael mynd.
Yn ôl Sian Lewis, roedd un mudiad sy’n delio gyda thrais yn y cartref wedi holi am gyfleoedd i blant sydd dan eu hadain nhw.
Y bwriad yw codi’r arian i gyd erbyn mis Rhagfyr.