Un sy’n edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yw Alaw Le Bon, a fydd yn cael ei hurddo i’r Orsedd ddiwedd yr wythnos.
Bydd yr athrawes 26 oed yn cael gwisg las am ei gwaith yn ei chymuned, yn arweinydd Cylchoedd Chwarae’r Haf dros Fenter Caerdydd, a chroesawydd cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dros wyliau’r ysgol.
Mae hi hefyd wedi bod yn ddiwyd yn codi arian at Brifwyl y brifddinas yn rhai o ardaloedd mwya’ difreintiedig Caerdydd, fel rhan o Bwyllgor Apêl Tyllgoed, Trelái a Chaerau.
Mae’r pwyllgor bach o wyth person wedi llwyddo i fynd y tu hwnt i’w darged o £10,000, gan godi £12,500.
Mae’r gweithgareddau wedi amrywio o nosweithiau cwis a chyri, te pnawn, noson fawr jazz a tapas, a’r pwyllgor yn cerdded Mynydd Pen y Fan.
Fe wnaeth Alaw Le Bon, sy’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol ond erbyn hyn yn byw yn y Barri, rhedeg ei ras gyntaf, 10K Caerdydd, at yr achos hefyd.
“Roedd o’n dalcen caled, trio cael y gynulleidfa, pobol yr ardal, i’r digwyddiadau,” meddai.
“Dw i’n meddwl mai’r peth mwyaf pwysig oedd hyrwyddo’r Eisteddfod yn hytrach na chael arian gan y bobol… mae pobol ar draws y ddinas wedi ein cefnogi ni yn gwybod bod hi’n ardal ddifreintiedig.”
Gadael gwaddol?
Mae’r athrawes, sy’n dysgu yn Ysgol Gymraeg Nant Caerau, yn “gobeithio’n fawr” y bydd pobol yr ardal yn mynd i’r Eisteddfod ac yn hyderus y bydd yr ŵyl yn gadael ei waddol.
“Rydan ni fel pwyllgor hefyd yn awyddus i gario ‘mlaen gyda’n gwaith, rydan ni’n mynd i gael seibiant bach, cario ‘mlaen, ac efallai codi arian ar gyfer Menter Caerdydd, ar raddfa lai ond dal i godi arian a dal i fod yn bwyllgor bach clòs gobeithio.”