Fe fydd seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal yn nhref Conwy ddydd Sadwrn, Gorffennaf 7.
Ar lwyfan arbennig ar sgwâr y dref, fe fydd perfformiadau gan ysgolion lleol, a chriw Cyw a’i Ffrindiau S4C, gan roi blas o’r hyn sydd i ddod y flwyddyn nesaf yn yr Eisteddfod ei hun.
Fe fydd gorymdaith ddechrau’r prynhawn yn cychwyn o Barc Bodlondeb a cherdded drwy’r dref cyn dychwelyd i’r Parc, lle cynhelir Seremoni’r Cyhoeddi ei hun, gan roi cyfle i drigolion ac ymwelwyr weld un o seremonïau’r Orsedd.
Dilyn hen draddodiad
Yn hanesyddol, mae’n rhaid cyhoeddi bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.
Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf.
Yn dilyn y Cyhoeddi, bydd Tecwyn Ifan yn perfformio yn Oriel Conwy yn y dref, i gloi diwrnod arbennig, a’r noson wedyn bydd Cymanfa Ganu yng Nghapel Seion, Llanrwst, nos Sul, Gorffennaf 8 am 6yh.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ger Llanrwst o Awst 2-8, 2019.