“Mae’n well siarad Cymraeg amherffaith, na pheidio’i siarad o gwbwl,” meddai Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Mae Steve Hughson yn Brif Weithredwr ar Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac yn ffigwr blaenllaw ym myd amaeth yng Nghymru.

Yn ogystal, mae e’n ddysgwr, sy’n anelu at feistroli’r iaith.

Ar faes y brifwyl ddydd Mawrth (Mai 29), mae Steve Hughson wedi apelio ar Gymry Cymraeg i oddef iaith amherffaith, er mwyn annog dysgwyr i ddal ati.

Cefnogi

“Mae’n bwysig jest cefnogi dysgwyr i fod yn onest,” meddai wrth golwg360.

“Wrth gwrs dyw fy Nghymraeg ddim yn bur ddim yn berffaith. Ond, mae’n well siarad Cymraeg amherffaith, na pheidio’i siarad o gwbwl.

“Felly mae’n bwysig cefnogi’r bobol sy’n trïo siarad Cymraeg, i godi’r nifer yng Nghymru sy’n ei siarad. Os na chewch chi siarad Cymraeg yn amherffaith, fydd yna ddim dyfodol i’r iaith.

“Wrth gwrs dw i eisiau siarad yr iaith yn berffaith [rhyw ddydd], ond er mwyn cael rhagor o hyder rhaid cael cefnogaeth pawb.”

Daw ei sylwadau ar ddiwrnod cyflwyno Medal y Dysgwr. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y pafiliwn yn ddiweddarach heddiw.

Amaeth

Gan atseinio neges Llywydd y Dydd ddydd Llun, y naturiaethwr, Iolo Williams, mae Steve Hughson wedi galw ar y corff i roi rhagor o bwyslais ar faes penodol – y tro yma, amaeth.

“Mae ‘na gynulleidfa gwahanol [o gymharu â’r Sioe Frenhinol], ond mae llawer o bobol sy’n mynd i’r ddau,” meddai.

“Yr iaith Gymraeg, dw i’n credu yw iaith amaeth, ac iaith cefn gwlad. Ac mae’n bwysig i bob sefydliad – Yr Urdd a’r Clybiau Ffermwy Ifainc – yn gweithio gyda’i gilydd i godi proffil yr iaith Gymraeg.”