Mae côr i bobol hŷn wedi cael clywed eu bod nhw’n cael grant gan y Loteri Genedlaethol i leihau unigrwydd.
Mae ‘With Music in Mind CIC’ yn un o wyth prosiect ledled Cymru sy’n rhannu’r £656,060 o grantiau yn rownd ddiweddaraf rhaglen Pawb a’i Le, y Gronfa Loteri Fawr.
Fe fyddan nhw’n defnyddio eu £99,954 i ehangu eu gwasanaeth presennol, sy’n cynnig cyfleoedd canu a chymdeithasu i’r sawl sydd dros 50 oed ac mewn peryg o fod yn unig, i ddau le newydd ym Mro Morgannwg.
Mae 1.2 miliwn o bobol hŷn yn profi unigrwydd cronig yng ngwledydd Prydain, ac mae hanner miliwn o bobol hŷn yn mynd pump neu chwe diwrnod yr wythnos o leiaf heb weld na siarad ag unrhyw un o gwbwl.
“Bydd yr arian yn galluogi’r sefydliad i ehangu i ddau leoliad newydd ym Mro Morgannwg, gan olygu y bydd llawer iawn mwy o bobol hŷn yn cael budd o grwpiau canu a chymdeithasu o fewn y gymuned,” meddai Sarah Miles o ‘With Music in Mind’.”